Dyddiad yr Adroddiad

05/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Amlwch

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202103868

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Amlwch (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad pan wnaethant, yn eu rôl fel cyfarwyddwr elusen, gais am grant Cronfa Cadernid Economaidd o Gyngor Sir Ynys Môn (“y Cyngor Sir”) heb awdurdod yr elusen ac ei bod wedi anwybyddu barn cyfarwyddwyr eraill yr elusen nad oedd yr elusen yn gymwys i’r grant.  Honnwyd hefyd fod y cais a wnaed gan yr Aelod yn cynnwys gwybodaeth ffug a’i bod wedi ceisio trosglwyddo’r arian o gyfrif yr elusen i’w cyfrif personol heb awdurdod.

Derbyniodd yr Ombwdsmon wybodaeth oddi wrth y Cyngor Sir, y Cyngor, yr Aelod a Heddlu Gogledd Cymru.  Dywedodd yr Aelod bod ei gweithredoedd, a wnaed yn ei rhinwedd bersonol fel cyfarwyddwr yr elusen, er budd yr elusen a’r gymuned.  Roedd yr Aelod yn aflwyddiannus yn ei ymgais i drosglwyddo’r arian i’w chyfrif banc personol, a dychwelwyd yr arian pan nodwyd yr anallu.  Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd yn ymchwilio i’r honiadau yn unol â dymuniadau’r Cyngor.  Awgrymodd hyn and oedd y Cyngor o’r farn bod unrhyw fwriad troseddol neu dwyllodrus ar ran yr Aelod.

Ystyriodd yr Ombwdsmon hefyd nad oedd yr Aelod yn sefyll i gael ei hailethol i’r Cyngor, y Cyngor Sir nac unrhyw Gyngor Tref neu Gymuned arall yn ardal y Cyngor Sir.  Felly, nid oedd yr Ombwdsmon bellach yn fodlon bod ymchwiliad i’r gŵyn er lles y cyhoedd a phenderfynodd terfynu’r ymchwiliad.