Dyddiad yr Adroddiad

17/06/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202000660

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod o Gyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Cyngor. Honnwyd bod yr Aelod wedi cyhoeddi neges ym mis Mehefin 2020 ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol Facebook, y gellid ei ystyried yn hiliol, ac y gallai niweidio enw da swydd Cynghorydd a’r Cyngor.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi cyhoeddi ei sylw yn gyhoeddus er mwyn codi pryderon ynghylch penderfyniad y Cyngor i dynnu sylw at Neuadd y Sir i gefnogi Black Lives Matter. Dileodd yr Aelod ei dudalen proffil Facebook yn ei chyfanrwydd rai wythnosau’n ddiweddarach. Cafwyd nifer o gwynion am y sylw i’r Cyngor ac i swyddfa’r Ombwdsmon, ac roedd yr Aelod yn destun diddordeb lleol a chenedlaethol yn y Wasg, yn ogystal â sylw sylweddol ar Facebook. Dywedodd yr Aelod ei fod o’r farn bod y sylw yn dod o fewn ei hawl i ryddid mynegiant oherwydd nad oedd yn credu ei fod wedi tramgwyddo unrhyw un mewn gwirionedd, a chymhelliad gwleidyddol oedd i’r cwynion a wnaed yn ei erbyn.

Derbyniodd yr Ombwdsmon fod gan yr Aelod yr hawl i gwestiynu penderfyniad y Cyngor i gefnogi Black Lives Matter, fodd bynnag roedd yr iaith a ddefnyddiwyd gan yr Aelod yn dramgwyddus ac yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid gan gynghorydd mewn trafodaeth wleidyddol. Nid oedd yr Aelod wedi manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth na hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y gallai’r Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, yn benodol paragraff 6(1)(a) gan y gellid yn rhesymol ystyried ei fod wedi ymddwyn mewn modd a allai ddwyn anfri ar swydd aelod, neu ar y Cyngor ei hun. Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Sir Penfro i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd a’i geryddu am dorri paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod.  Dywedodd y byddai wedi ystyried atal dros dro pe bai’r Aelod wedi’i ail-ethol yn yr etholiadau Llywodraeth Leol diweddar.