Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Gadeirydd Pwyllgor Personél Cyngor Tref Tywyn (“y Cyngor”) bod Aelod (“yr Aelod”) o’r Cyngor wedi methu â dilyn Cod Ymddygiad y Cyngor ar gyfer Aelodau.
Honnwyd y bu’r Aelod yn amharchus tuag at Glerc y Cyngor (“y Clerc”) a’i fod wedi ei thanseilio dro ar ôl tro. Roedd y gŵyn yn ymwneud â gohebiaeth a anfonwyd gan yr Aelod at y Clerc a gohebiaeth a anfonwyd gan yr Aelod am y Clerc.
Daeth yr Ombwdsmon i’r Casgliad bod gohebiaeth yr Aelod yn cynnwys sylwadau personol difrïol a oedd yn amharchus ac mai bwriad y sylwadau ynglŷn â phrofiad y Clerc oedd tanseilio’r Clerc. Yn ychwanegol, defnyddiodd yr Aelod iaith â thuedd tuag at ryw benodol wrth wneud sylwadau am y Clerc.
Daeth yr Ombwdsmon i’r penderfyniad y gallai’r Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, yn benodol, paragraffau 4(a), 4(b) a 4(c) gan fod yr Aelod wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb, waeth beth yw eu rhywedd; methiant i ddangos parch ac ystyriaeth, ac ymddwyn mewn ffordd sy’n fwlio neu’n harasio mewn perthynas â’r Clerc. Canfu’r Ombwdsmon hefyd y gellid ystyried gweithredodd yr Aelod yn rhesymol fel ymddygiad a allai ddwyn anfri ar Swyddfa’r Aelod neu’r Cyngor, ac fel ymddygiad sy’n cyfleu achos posibl o dorri paragraff (6 (1) (a) y Cod Ymddygiad.
Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ymchwilio at Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Ceryddodd y Pwyllgor Safonau y Cynghorydd Stevens am ei fod wedi ymddiswyddo o’r Cyngor cyn y gwrandawiad. Dywedodd y byddai wedi ei atal am y cyfnod hiraf posib a gofynnodd iddo fyfyrio ar ei ymddygiad.