Dyddiad yr Adroddiad

14/06/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Apwyntiadau/derbyniadau/gweithdrefnau cyflawniad a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202100994

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms D, ar ran ei diweddar dad, Mr F, ei fod, ar ôl iddo gael ei dderbyn ar frys i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ôl cymryd gorddos o feddyginiaeth a datblygu anawsterau anadlu, wedi cael ei ryddhau’n amhriodol a chyn amser. Cwynodd Mrs D am y canlynol:

1.Er gwaethaf hanes hir o broblemau iechyd meddwl, cafodd Mr F ei ryddhau heb unrhyw gydgysylltiad/cydlynu o flaen llaw gyda gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol.

2.Ar ôl cael ei ryddhau, roedd Mr F (a oedd yn byw ar ei ben ei hun) yn fyr o wynt, yn wan, bron yn ddall ac yn methu sefyll na symud heb gymorth. Er gwaethaf hyn, cafodd ei ryddhau heb becyn cymorth gofal cartref.

3. Roedd y methiannau hyn wedi cyfrannu at ddirywiad dilynol Mr F ac efallai eu bod wedi dylanwadu ar ei benderfyniad (a wnaed o fewn pythefnos i’w ryddhau) i ddod â’i fywyd i ben drwy gymryd gorddos arall o feddyginiaeth.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwynion Ms D. O ran cwyn 1, nododd yr Ombwdsmon, drwy ei Chynghorwyr, fod clinigwyr yr ysbyty wedi methu â chydlynu â gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol cyn rhyddhau Mr F. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth (yn yr achos hwn) bod y diffyg hwn mewn cyfathrebu wedi arwain at unrhyw ganlyniadau andwyol.

O ran cwyn 2, nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu cysoni disgrifiad Ms D o gyflwr ei thad â’r dystiolaeth ddogfennol a oedd ar gael. Canfu fod yr holl ddangosyddion clinigol a swyddogaethol ynghylch pa mor addas oedd rhyddhau Mr F ar waith ar y diwrnod y cafodd ei ryddhau, ac nad oedd sail glinigol dros atal na gohirio hynny. Canfu hefyd fod rhai o’r anawsterau ymdopi a wynebodd Mr F wedyn (fel y nodwyd gan y teulu) yn ymwneud yn rhannol â’i benderfyniad i wrthod a/neu leihau’r cymorth cartref a oedd ar gael gan glinigwyr.

Yn olaf, ni chanfu’r Ombwdsmon dystiolaeth i gefnogi’r gŵyn y gellir priodoli canlyniad trychinebus dirywiad seicolegol dilynol Mr F ar ôl ei ryddhau – a’i benderfyniad i ddod â’i fywyd i ben ryw bythefnos ar ôl iddo gael ei ryddhau – yn gyfan gwbl neu’n rhannol i unrhyw fethiannau yn y gofal. Canfu’r Ombwdsmon fod Mr F wedi cael lefel briodol o gefnogaeth gan ei Nyrs Seiciatrig Gymunedol ac nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod, ar ôl cael ei ryddhau, wedi dioddef unrhyw argyfwng iechyd meddwl, na’i fod yn fwy isel ei ysbryd, na bod ef na’i deulu wedi gwneud unrhyw gais am ymyriad a/neu gymorth a gafodd ei anwybyddu neu na chafodd ymateb iddo. Cafodd Mr F ei weld gan ei Nyrs Seiciatrig Gymunedol 2 ddiwrnod cyn ei benderfyniad i ddod â’i fywyd i ben a chofnododd y Nyrs Seiciatrig Gymunedol fod Mr F yn ymddangos ei fod mewn hwyliau da. Dywedodd yn bendant nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch ei iechyd meddwl.