Cwynodd Mr X am y driniaeth a gafodd ei ddiweddar fam, Mrs Y, yn Ysbyty Brenhinol Gwent ym mis Medi 2020 ar ôl iddi gael strôc, yn enwedig y feddyginiaeth a roddwyd i leihau ei phwysedd gwaed. Dirywiodd cyflwr Mrs Y; daethpwyd i’r casgliad ei bod wedi dioddef “digwyddiad dinistriol” arall yng nghoesyn yr ymennydd a bu farw, yn drist iawn, ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs Y wedi cael 3 meddyginiaeth wahanol i leihau ei phwysedd gwaed. Er na nodwyd un ohonynt (arllwysiad GTN) ac na ddylid fod wedi’i rhoi, ac y byddai wedi bod yn fwy priodol gohirio meddyginiaeth arall tan y diwrnod canlynol, nid oedd y dirywiad yng nghyflwr Mrs Y wedi’i achosi gan ostyngiad yn ei phwysedd gwaed ac felly nid oedd hyn o ganlyniad i’r feddyginiaeth a dderbyniodd. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod diffygion o ran cadw cofnodion. Fodd bynnag, nid oedd methiant yn y gwasanaeth na’r methiannau gweinyddol wedi achosi anghyfiawnder i Mrs Y ac felly ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau gan yr Ombwdsmon.