Cwynodd Mrs A am addysg ei mab, gan gynnwys y diffyg addysg a oedd yn anghyfreithlon a methiant i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol.
Canfu’r asesiad nad oedd y Cyngor wedi ymchwilio’n briodol nac ymateb i bryderon Mrs A.
I ddatrys hyn, cytunodd y Cyngor i drefnu ymchwiliad i gŵyn Mrs A a cheisio rhoi sylw i’w holl bryderon yn unol â’i bolisi cwynion, gan gynnwys defnyddio ymchwilydd annibynnol, lle bo hynny’n briodol. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r ymchwiliad a chyflwyno ymateb o fewn 3 mis.