Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w merch, Miss A, gan y Bwrdd Iechyd o ran ei golwg a strôc posib. Dywedodd Mrs X hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd yn fodlon derbyn ei chŵyn oherwydd ei bod yn cael ei hystyried yn hwyr.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod yr elfen golwg yng nghwyn Mrs X yn rhy hwyr, fod Mrs X ond wedi dod yn ymwybodol o’r posibilrwydd y gallai Miss A fod wedi cael strôc ym mis Awst 2021, pan dderbyniodd lythyr gan feddyg ymgynghorol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mrs X erbyn 10 Medi 2022 yn lle bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi:
a) Cynnal cyfarfod ar-lein gyda Mrs X ac ymgynghorydd pediatrig i drafod ymhellach y gofal a gafodd Miss A gan y Bwrdd Iechyd a chanlyniadau unrhyw ymchwiliadau a gynhaliwyd bryd hynny.