Cwynodd cynrychiolydd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn y broses briodol wrth ddelio ag adolygiad ôl-weithredol o gymhwysedd i gael gofal parhaus y GIG. Cwynodd cynrychiolydd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â threfnu adolygiad priodol gan gymheiriaid; gofynnwyd am gadarnhad allanol o’r honiad am y cymhwysedd a chafodd hyn ei gwblhau’n gynamserol; ni ddarparwyd Dogfen Penderfyniad iddi ac roedd y cyfarfod negodi gyda chynghorydd clinigol y Bwrdd Iechyd yn anfoddhaol.
Canfu’r asesiad fod yr honiad wedi cael ei gadarnhau’n gynamserol, ac nad oedd Dogfen Penderfyniad wedi’i darparu. Roedd hynny’n gamweinyddu a achosodd anghyfiawnder.
Er mwyn datrys y rhan honno o’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi’r penderfyniad cynamserol i gadarnhau o’r neilltu ac i drefnu, o fewn 3 mis, i gael cadarnhad gan Gadeirydd IRP gwahanol ar sail y wybodaeth/dystiolaeth sydd ar gael yn dilyn y broses negodi ac i fwrw ymlaen yn ôl penderfyniad y Cadeirydd hwnnw, hynny yw, naill ai cadarnhau’r penderfyniad nad yw’n gymwys, a Dogfen Penderfyniad wedi’i chwblhau a’i rhannu â’r achwynydd, neu benderfyniad i gynnull Panel Adolygu Annibynnol.
Canfu’r asesiad fod adolygiad addas gan gymheiriaid wedi’i gynnal ac nid oedd o’r farn bod angen ymchwilio i’r pryderon ynghylch y cyfarfod.