Dyddiad yr Adroddiad

25/07/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202102463

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms D am y gofal a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Dywedodd fod un o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol y Bwrdd Iechyd (“y CMHTl”) wedi methu ag asesu ei chyflwr seicolegol yn briodol, i’w ddiagnosio fel un sydd ag anhwylder straen wedi trawma cymhleth (C-PTSD – cyflwr iechyd meddwl y gellir ei achosi drwy ddod i gysylltiad â digwyddiadau erchyll neu drallodus sy’n cael eu hailadrodd) ac i ragnodi triniaeth briodol iddi.

Nododd yr Ombwdsmon y gallai’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol fod wedi cael mwy o wybodaeth am y cam-drin domestig yr oedd Ms D wedi rhoi gwybod amdano pan oeddent yn ei hasesu. Nododd hefyd y byddai wedi bod yn briodol i’r Seiciatrydd Ymgynghorol dan sylw fod wedi cofnodi sylw am ddiagnosis Ms D yn ystod yr asesiad hwn. Fodd bynnag, ni chanfu fod y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wedi methu ag asesu cyflwr seicolegol Ms D yn iawn. Roedd hi’n credu ei bod hi’n amhosib penderfynu a oedd Ms D wedi cael anhwylder straen wedi trawma cymhleth pan oedd y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wedi’i hasesu ai peidio. Canfu fod y driniaeth a roddwyd i Ms D gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wedi bod yn rhesymol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Ms D.