Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202201409

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am ddigwyddiadau a arweiniodd at ei fam yn dal COVID-19 yn ystod arhosiad yn yr ysbyty. Cwynodd hefyd am gyfathrebu gwael ag ef a’i deulu, yn enwedig o ran y penderfyniad i beidio â rhoi peiriant anadlu i’w fam.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb cynhwysfawr i’r gŵyn am COVID-19 a gafwyd mewn ysbyty ac nad oedd wedi cael cyfle i fynd i’r afael yn benodol â’r pryderon a godwyd ynghylch peiriannau anadlu.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 30 diwrnod gwaith, i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Mr X a oedd yn ymdrin â’r ddau fater. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn ac felly ni wnaeth ymchwilio iddi.