Dyddiad yr Adroddiad

20/07/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202017

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y gofal meddygol a roddwyd i’w mam yn ystod y cyfnod pan gafodd ei derbyn i’r ysbyty. Teimlai fod yr ysbyty wedi methu â darparu lefel dderbyniol neu ddiogel o ofal i’w mam a’i bod am gael ymddiheuriad personol wyneb yn wyneb gan y staff perthnasol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb llawn i’r holl bryderon a godwyd yn flaenorol gan Ms X. Nododd yr Ombwdsmon fod ei hawdurdodaeth yn ystyried cwynion am y Bwrdd Iechyd fel corff corfforaethol, nac unrhyw gamau unioni gan y Bwrdd hwnnw. Nid oes ganddi awdurdodaeth i fynnu bod staff yn ymddiheuro’n bersonol i achwynwyr, yn unol â chais Ms X.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddatrys cwyn Ms X yn gynnar (yn hytrach nag ymchwilio iddi) a oedd yn cynnwys:
O fewn 30 diwrnod gwaith bydd y Bwrdd Iechyd yn gwneud y canlynol:
1) Anfon ymateb llawn i’r gŵyn
a) ymdrin â holl elfennau’r gŵyn fel y’u cyflwynwyd; a
b) darparu ymateb manwl a chadarn mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd ei hun.
2) Rhoi cyfle i gwrdd â’r staff perthnasol i drafod pryderon wyneb yn wyneb.