Cwynodd Ms X ei bod wedi cael ei gadael ag atgyweiriadau heb eu gwneud i’w heiddo er bod y Cyngor wedi addo gwneud y gwaith. Cwynodd Ms X ymhellach fod byrddau Asbestos wedi torri yn yr eiddo a’u bod eto i gael eu tynnu i lawr.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod gan Ms X atgyweiriadau heb eu gwneud yn ei heiddo ac felly cysylltodd â’r Cyngor. Cadarnhaodd y Cyngor fod yr holl atgyweiriadau i eiddo Ms X wedi’u gwneud ac wedi’u hadolygu, fodd bynnag, roedd 1 atgyweiriad yn weddill ar gyfer y byrddau Asbestos oedd wedi torri. Ar ben hynny, fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor y byddai’r gwaith o dynnu’r byrddau Asbestos i lawr yn cael ei gwblhau erbyn 9 Medi 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Ms X.