Cwynodd Mrs X, er gwaethaf ei cheisiadau, fod y Cartref Nyrsio wedi methu â threfnu cyfarfod wyneb yn wyneb â hi i fynd i’r afael â’i phryderon am y gofal a ddarparwyd i’w rhieni pan oeddent yn byw yn y Cartref Nyrsio.
Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd cyfarfod wedi’i gynnal er gwaethaf sicrwydd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal unwaith y byddai cyfyngiadau Covid-19 wedi’u codi. Wrth wneud ymholiadau gyda’r Cartref Nyrsio, hysbyswyd yr Ombwdsmon fod y Cartref Nyrsio yn y broses o gael ei ddiddymu ac felly y byddai cyfarfod bellach yn anymarferol.
Yn wyneb y sefyllfa, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cartref Nyrsio, ar ôl derbyn cwestiynau Mrs X heb eu hateb, i ddarparu ymateb ysgrifenedig o fewn 1 mis.