Dyddiad yr Adroddiad

01/07/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llanigon

Pwnc

Atebolrwydd a bod yn agored

Cyfeirnod Achos

202100842

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llanigon(“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd bod yr aelod wedi:

  • Ymddwyn mewn modd amharchus, ymosodol a hynod fygythiol tuag at yr achwynydd mewn cyfarfod y Cyngor ar 9 Rhagfyr 2020.
  • Bwlio a bygwth y Clerc.
  • Gwahaniaethu yn erbyn Aelodau benywaidd trwy beidio â’u cynnwys mewn gohebiaeth a thrafodaethau.
  • Methu ag ymgynghori â’r Cyngor llawn wrth wneud penderfyniadau.
  • Methu â thrafod cyflogau’r Clerciaid
  • Methu â chynnal cyfarfodydd rhithwir y Cyngor yn ystod pandemig COVID-19.
  • Gohirio sefydlu gwefan i’r Cyngor ac yn hwyrach, creu un ei hun, nad oedd yn hygyrch i’r cyhoedd, ac am ba un yr hawliai ffi oddi wrth y Cyngor am ei gynnal.
  • Gwrthod darparu derbynebau wrth hawlio treuliau.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – Rhaid [i’r Aelod] [d]dangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
  • 4(c) – Rhaid [i’r Aelod] [b]eidio ag ymddwyn fel bwli neu harasio unrhyw berson.
  • 6(1)(a) – Rhaid [i’r Aelod] beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar [eich] swydd neu [ar eich] awdurdod;
  • 7(a) – Rhaid [i’r Aelod] beidio â, yn [ei] gapasiti swyddogol neu fel arall, defnyddio neu geisio defnyddio [ei] safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais [i’w hun] neu i unrhyw berson arall, neu i greu neu i osgoi anfantais [i’w hun] neu i unrhyw berson arall.
  • 9(a) – Rhaid [i’r Aelod] gadw at y gyfraith a rheolau ei awdurdod sy’n llywodraethu hawlio treuliau a lwfansau mewn cysylltiad â’i ddyletswyddau fel aelod.

Cafwyd cyfrifon tystion gan holl aelodau’r Cyngor, y Clerc, a Chynghorydd Sir. Adolygwyd hefyd y dogfennau a ddarparwyd gan y Clerc a Swyddog Monitro Cyngor Sir Powys.

Ni chafodd yr Aelod ei ailethol yn etholiadau Mai 2022 ac roedd y dystiolaeth yn anghyson. Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cymryd camau ymchwiliol pellach er budd y cyhoedd.  Penderfynodd nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.