Dyddiad yr Adroddiad

11/08/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202202147

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs H nad oedd y Cyngor wedi mynd i’r afael â’i phryderon na ddeliwyd â’i ymchwiliad i’w chŵyn gynllunio mewn modd diduedd a thryloyw.

Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn yn flaenorol i’r Cyngor gynnal ymchwiliad i’r ffordd yr oedd wedi ymdrin â chŵyn cynllunio Mrs H. Wedi hynny, cynigiodd y Cyngor daliad o £100 i Mrs H i gydnabod ei ddull gwael o ymdrin â’i chŵyn (yr oedd yr Ombwdsmon yn ei ystyried yn rhesymol), ond roedd wedi methu â chydnabod na myfyrio ar ganfyddiad Mrs H o fias a rhagfarn yn y ffordd yr ymchwiliwyd i’r gŵyn gynllunio.

Felly, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i gwblhau’r camau gweithredu canlynol erbyn 9 Medi 2022 i setlo cwyn Mrs H:

  1. Ysgrifennu at Mrs H i gydnabod y bias/rhagfarn canfyddedig ac ymddiheuro am fethu â chydnabod hyn yn gynt.
  2. Ailadrodd y cynnig o £100 a wnaed yn flaenorol i gydnabod ei ymdriniaeth wael â’r gŵyn.
  3. Cysylltu â’r Awdurdod Safonau Cwynion i drefnu sesiwn hyfforddi ar fias/rhagfarn canfyddedig ar gyfer Tîm Cwynion y Cyngor