Cwynodd Dr Y ar ran ei chleient, Mr X, am y gofal a gafodd mewn sefydliad diogel a oedd yn darparu gofal iechyd meddwl a oedd yn cael ei ariannu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, yng nghyswllt ei drosglwyddo o’r sefydliad yn ôl i’r carchar. Cwynodd fod Mr X wedi’i wahardd rhag cael ei driniaeth ei hun, nad oedd wedi cael triniaeth effeithiol wedi’i haddasu ar gyfer ei anghenion, bod methiant wedi bod i sicrhau y gallai’r carchar ddiwallu ei anghenion, a bod methiant wedi bod i ddarparu cynllun rhyddhau i Mr X neu’r carchar.
Canfu’r ymchwiliad fod canllawiau perthnasol yn nodi y dylai unigolion fod yn rhan o’r broses rhyddhau/trosglwyddo, ac er bod Mr X wedi cael gwybod bod trosglwyddiad yn cael ei ystyried, ni chafodd wybod am ei drosglwyddiad i garchar nes iddo ddigwydd. Fodd bynnag, canfu, o dan yr amgylchiadau (yn benodol digwyddiadau diweddar Mr X o ymddygiad ymosodol a thrais, gan gynnwys i staff), fod y penderfyniad clinigol a wnaethpwyd i beidio â dweud wrth Mr X yn rhesymol. Canfu fod Mr X wedi cael cynnig asesiad seicolegol er mwyn deall ei anghenion triniaeth yn well, ond er bod hyn wedi dechrau ym mis Medi, gan nad oedd Mr X wedi ymgysylltu’n llawn â’r sesiynau, ni chafodd ei gwblhau tan y dyddiau cyn i Mr X gael ei drosglwyddo’n ôl i’r carchar (y mis Chwefror dilynol), ac felly ni ellid gweithredu’r canfyddiadau cyn hyn. Canfu fod y carchar wedi cynghori’r sefydliad y gallai ddiwallu anghenion Mr X ac roedd yn rhesymol i’r sefydliad dderbyn hynny, ac er bod anghydfod ynghylch a oedd yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei darparu i’r carchar (yn benodol canlyniadau terfynol yr asesiad seicolegol), darparwyd digon o wybodaeth iddo fod yn gynllun rhyddhau digonol. Felly, ni chafodd y cwynion eu cadarnhau.