Dyddiad yr Adroddiad

22/11/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100241

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr X yn dilyn biopsi prostad ar 12 Ebrill 2019, y byddai’n cael gweld ymgynghorydd arall 3 mis yn ddiweddarach, ond bod yr Ymgynghorydd wedi ymddeol, ac na chafodd ymgynghoriad tan 19 Rhagfyr. Cwynodd hefyd fod sgan delweddu atseiniol magnetig amlbaramedr (“MPMRI” – math arbennig o sgan sy’n creu sgan manwl o’r brostad) ar 29 Chwefror 2020 wedi dangos canfyddiadau annormal a dywedwyd wrtho y byddai angen Biopsi Templed (biopsi o’r brostad sy’n defnyddio templed i roi nodwyddau mân drwy’r croen rhwng y ceillgwd a’r anws, triniaeth cynhyrchu aerosol – o dan anesthetig cyffredinol) i ddiystyru canser y brostad neu lid difrifol. Cwynodd Mr X fod y llawdriniaeth wedi’i chanslo ar y pryd, oherwydd COVID-19, a chan ei fod yn poeni am ei iechyd, cafodd ymgynghoriad a biopsi’n breifat, a bod hynny wedi costio £5,085. Roedd y biopsi preifat yn negyddol heb ddim tystiolaeth o ganser.
Canfu’r Ombwdsmon er nad chafodd Mr X ei weld am dri mis, cafodd ei hysbysu drwy lythyr o ganlyniad y biopsi; ni chafodd ei weld am 8 mis ar ôl y biopsi yn 2019. Roedd antigen prostad penodol Mr X (“PSA” – prawf gwaed am ganser y brostad) lai na blwyddyn ynghynt. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod Mr X wedi cael ei rybuddio ym mis Mawrth 2020, y byddai oedi yn ei driniaeth oherwydd COVID-19. Dim ond y rhai hynny ag achosion brys lle’r oedd amheuaeth o ganser a gadarnhawyd gan Doriad Trawswrethra ar Diwmor y Bledren (“TURBT” – mewnosod tiwb main gyda chamera a golau ar ei ben i’r bledren drwy’r wrethra) oedd yn cael eu gweld, ac ar yr adeg honno nid oedd neb wedi’u hyfforddi i gynnal biopsi transperineally o dan anesthetig lleol. Ni chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn.