Cwynodd Mrs Q am oedi gormodol gan y Cyngor cyn gwneud gwaith trwsio, cynnal a chadw, cyn cynnal ymchwiliad i’w chyflenwad trydan, codi ffens a chasglu gwastraff yn ei heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cymryd camau priodol i fynd at wraidd problemau trydan Mrs Q. Gosodwyd cyfarpar monitro defnydd o drydan ym mis Awst 2019 a ddangosodd nad oedd dim o’i le ar ei chyflenwad trydan, a bod y costau uchel yn debygol o ddeillio o ddefnydd gormodol. Gan fod Mrs Q wedi mynegi mwy o bryderon, gosododd y Cyngor gyfarpar monitro priodol eto ym mis Gorffennaf 2021, gyda’r un canlyniad.
O ran gwaith trwsio a chynnal a chodi ffens, roedd y Cyngor wedi cynnig swm o arian i Mrs Q – roedd costau trwsio a chynnal wedi’u cynnwys yn y swm. Pan wrthodwyd y cynnig hwn yn y diwedd, ac yn dilyn ymateb cwyn cam 2 y Cyngor, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Cyngor wedi gwneud gwaith trwsio a chynnal ar unwaith ac wedi ymdrechu i gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol.
O ran casglu sbwriel, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon, yn dilyn ymateb cwyn cam 2 y Cyngor, ei fod yn gweld bod oedi wedi digwydd, wedi ymddiheuro i Mrs Q ac wedi ceisio cywiro’r sefyllfa cyn gynted â phosibl.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.