Cwynodd Mr X am y profiad a gafodd gyda’r Practis, y credai sy’n drawsffobig. Gwrthododd y Practis ragnodi hormonau, yr oedd y tîm rhywedd lleol wedi gwneud cais amdanynt, heb gael eglurhad pellach, ond nad oedd wedi cael unrhyw ddiweddariad nac ymateb i hyn. Roedd Mr X yn anfodlon â’r ymateb a gafodd i’r gŵyn, nad oedd yn cynnwys cyfarchiad. Roedd Mr X eisiau i’r Practis gyfeirio ato wrth ei enw cyfreithiol a’i deitl mewn gohebiaeth.
Canfu’r Ombwdsmon er bod y Practis wedi ymateb i’r gŵyn, roedd hyn wedi codi rhagor o bryderon ac roedd rhai elfennau y gallai’r Practis fod wedi ymateb yn llawnach iddynt. Nid oedd y canlyniad na’r rhesymau am y penderfyniadau o ran rhagnodi testosteron wedi’u cyfleu’n ddigon manwl i Mr X. Ymddengys y gallai’r Practis addasu ei systemau i gyfarch Mr X wrth yr enw a’r cyfarchiad yr oedd yn ei ddymuno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i roi, o fewn 20 diwrnod gwaith, ymateb pellach, mwy manwl, a oedd yn rhoi sylw i’r pryderon a fynegwyd yn y gŵyn at yr Ombwdsmon, diweddariad o ran cyhoeddi’r presgripsiwn testosteron gan y Practis ac adolygu systemau a phrosesau’r Practis i sicrhau bod Mr X yn cael ei gyfarch wrth y cyfarchiad a’r enw cywir, fel y gofynnwyd amdano, ym mhob gohebiaeth. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i’r gŵyn.