Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202204634

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S ynglŷn â gwaith adeiladu a oedd yn cael ei gwblhau ym mis Mai 2021, ac er ei fod wedi cysylltu ag adran Rheoli Adeiladu’r Cyngor ar sawl achlysur, nid oedd wedi cael ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu am nad oedd Mr S byth wedi cael ymateb i’w bryderon a’i fod wedi profi oedi sylweddol. O ganlyniad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Cyngor y byddai, o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl llythyrau penderfyniad yr Ombwdsmon, yn ysgrifennu at Mr S ac yn ymddiheuro am yr oedi a brofwyd, ynghyd ag eglurhad. Cytunodd y Cyngor hefyd y byddai’n rhoi amserlen i Mr S ar gyfer gwneud y gwaith a thaliad o £125 am ei amser a’i drafferth. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mr S.