Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth gastroenteroleg a gafodd gan y Bwrdd Iechyd. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd methiant i roi diagnosis o Glefyd Seliag i Mr X (cyflwr lle mae’r system imiwnedd yn ymosod ar feinweoedd y corff pan mae glwten yn cael ei fwyta sy’n niweidio’r coluddyn bach fel nad yw’r corff yn gallu amsugno maetholion) mewn modd amserol a phriodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod gan Mr X (sydd â diabetes math 1) symptomau newydd yn y coluddyn, a bod Clefyd Seliag yn elfen gysylltiedig gyffredin o ddiabetes math 1, y dylai fod wedi cael ei ystyried fel achos posibl i symptomau Mr X. Canfu y dylid bod wedi ystyried cynnal prawf tTG (a ddefnyddir ar gyfer sgrinio a chanfod Clefyd Seliag) ac y byddai hyn wedi bod yn unol â gofynion y canllawiau perthnasol ar ddiagnosis o Glefyd Seliag. Ni chafodd Mr X ei brofi ac roedd hyn yn fethiant yn y gwasanaeth ac yn groes i ofynion y canllawiau perthnasol a achosodd anghyfiawnder i Mr X gan ei fod wedi gohirio’r diagnosis o achos ei symptomau yn y coluddyn. Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod cwyn Mr X wedi’i chyfiawnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr X, i wneud iawn ariannol am y trallod a achoswyd gan yr oedi, i rannu’r adroddiad ar gyfer dysgu gyda chlinigwyr perthnasol ac i adolygu dogfennau cyn-asesu perthnasol i ystyried cynnwys rhagor o wybodaeth i ganfod profion priodol.