Cwynodd Ms A am fethiant y Cyngor i roi telerau cynnig cynnar a wnaethpwyd ym mis Medi 2020 ar waith yn briodol. Roedd Ms A yn ddig nad oedd Asesiad Gofalwr wedi’i gwblhau’n iawn a bod ansicrwydd sylweddol o hyd ynghylch gofal seibiant.
Roedd Ms A hefyd yn ddig ei bod yn ymddangos bod gan y Cyngor agwedd anghyson at godi Taliad Uniongyrchol.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod telerau’r penderfyniad cynnar wedi cael eu bodloni, ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd. Fodd bynnag, ers hynny daeth i’r amlwg bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y Cyngor yng nghyswllt yr Asesiad Gofalwr wedi bod yn anghywir. Roedd y mater wedi datblygu’n sylweddol ers hynny ac roedd yr asesiad wedi dyddio. Felly, ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i drefnu Asesiad Gofalwr ‘ffres’, gyda’r un Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol ag a ddefnyddiwyd yn flaenorol, o fewn 6 wythnos.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon hefyd gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms A o fewn 6 wythnos i roi eglurder ynghylch gofal seibiant a’i ddarpariaeth.
Penderfynwyd y dylai Ms A gwyno am y cynnydd yn y Taliad Uniongyrchol i’r Cyngor, yn y lle cyntaf, er mwyn rhoi cyfle iddo ymchwilio ac ymateb, cyn cyflwyno unrhyw gŵyn am y mater hwnnw i’r swyddfa hon.