Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202205775

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei mab yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty rhwng Rhagfyr 2021 a Mawrth 2022. Yn benodol, roedd ei chŵyn yn ymwneud â’r ffaith bod croen ei mab, cyn ei dderbyn i’r ysbyty, yn holliach. Fodd bynnag, yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty roedd amheuon bod ganddo friwiau pwyso ac ar ôl cael ei ryddhau ni allai gerdded heb gymorth ac roedd angen nyrsys cymunedol i rwymo a thrin y briwiau am dri mis.

Casglodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mrs X heb roi sylw digonol i’w phryderon am sut / pam yr oedd ei mab wedi cael y briwiau. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud ymholiadau â’i adrannau perthnasol i geisio adnabod beth a achosodd y briwiau, a thrwy wneud hynny wedi methu ag adnabod a oedd angen unrhyw driniaeth wedyn ar fab Mrs X. Casglodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnwys cyfeiriad at yr ymchwiliad diogelu, na’i ganlyniad, a ddechreuwyd pan dderbyniwyd mab Mrs X i Ysbyty Treforys ym mis Mawrth 2022. Yn olaf, roedd yr Ombwdsmon yn poeni am y methiant, i bob golwg, i drefnu gofal gan nyrsys cymunedol ar gyfer mab Mrs X, cyn ei ryddhau.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac mewn ymgais i ddatrys cwyn Mrs X fe gytunodd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i roi ymateb ysgrifenedig pellach iddi’n rhoi sylw i’r materion oedd heb eu hateb.