Cwynodd Miss X i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddi yn ystod ei dau feichiogrwydd. O ganlyniad, penderfynodd Miss X gwyno i’r Ombwdsmon am ansawdd ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn am ei hail feichiogrwydd gan ddweud ei fod yn anghyflawn a heb ateb ei phryderon yn llawn. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb o gwbl i’w chŵyn am ei beichiogrwydd cyntaf.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb ffurfiol i Miss X ynghylch ei beichiogrwydd cyntaf. Casglodd hefyd fod yr ymateb gan y Bwrdd Iechyd ynghylch ail feichiogrwydd Miss X heb ateb yr holl bryderon a gododd yn llawn ac nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i lythyr ôl-ddilyn a anfonwyd gan Miss X, yn amlinellu ei phryderon oedd heb gael eu hateb.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn cynnig datrys cwyn Miss X fe gytunodd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i roi ymateb ffurfiol i gŵyn Miss X am ei beichiogrwydd cyntaf ynghyd ag ymddiheuriad a thalu iawndal ariannol o £250 am yr oedi a ddigwyddodd, ac i roi ymateb ysgrifenedig pellach iddi er mwyn ateb y pryderon am ei hail feichiogrwydd oedd heb gael eu hateb.