Dyddiad yr Adroddiad

20/02/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Hwlffordd

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202200117

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Hwlffordd (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad i Aelodau’r Cyngor.  Honnwyd bod yr Aelod wedi galw’r Clerc yn ‘gelwyddgi’ ar 2 achlysur yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Rheoli, Ystadau a Strategaeth y Cyngor ar 5 Ebrill 2022.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – Dangos parch ac ystyriaeth at eraill.

 

  • 4(c) – Peidio ag ymddwyn fel bwli nac aflonyddu ar unrhyw un.

 

  • 6(1)(a) – Peidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.

 

Cafodd ymchwiliad yr Ombwdsmon gopïau o gofnodion a dogfennau eraill gan y Cyngor a chafodd gyfrifon tystion gan 6 o dystion a oedd yn bresennol mewn cyfarfodydd perthnasol.  Ystyriodd hefyd sylwadau a wnaed gan yr Aelod.

Derbyniodd yr Aelod ei fod wedi galw’r Clerc yn ‘gelwyddgi’ ar 2 achlysur yn ystod y cyfarfod Rheoli, Ystadau a Strategaeth.  Gan hynny, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu fod amodau paragraffau 4(b) a 4(c) o’r Cod Ymddygiad wedi cael eu torri.  Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y digwyddiad hwn, o’i ystyried ar ei ben ei hun, yn awgrymu bod amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad wedi eu torri.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Sir Penfro i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad fod yr Aelod wedi torri amodau paragraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Yn unol â hynny, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid ceryddu’r Aelod, y sancsiwn mwyaf posib gan fod yr Aelod wedi ymddiswyddo ychydig cyn y gwrandawiad.