Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan aelod o’r cyhoedd (“yr achwynydd”) bod Aelod o Gyngor Cymuned Llanusyllt (“y Cyngor”) wedi methu â chadw at y Cod Ymddygiad i Aelodau.
Honnwyd bod yr Aelod wedi mynd at yr achwynydd ac wedi ymddwyn yn ymosodol tuag ato ynghylch mater parcio. Honnodd yr achwynydd fod yr Aelod wedi ymddwyn mewn modd gormesol a bygythiol ac wedi defnyddio ei safbwynt i’w fychanu a chodi cywilydd arno.
Dywedodd yr achwynydd fod yr Aelod wedi ymddwyn mewn ffordd a oedd yn bwlio ac yn fygythiol. Cydnabu’r Aelod y bu cyfarfod ond dywedodd na wnaeth ymddwyn yn wael yn y rhyngweithio. Nid oes unrhyw dyst arall na thystiolaeth teledu cylch cyfyng ar gael. Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y ddau barti dan sylw, nid oedd yr un o’r wybodaeth na’r dystiolaeth a oedd ar gael yn awgrymu y dylid cymryd un cyfrif dros y llall. Felly, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth annibynnol o’r digwyddiad, ni allai’r Ombwdsmon ddweud a oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.
Roedd ymchwiliad pellach i’r mater hwn yn annhebygol o esgor ar unrhyw wybodaeth a fyddai’n newid cydbwysedd y dystiolaeth a oedd ar gael ac felly nid oedd yn gymesur nac er budd y cyhoedd i barhau â’r ymchwiliad.