Gair gan Michelle
Yn y rhifyn hwn, rydym yn cynnwys gwybodaeth am ein hadroddiadau diddordeb cyhoeddus diweddar a phenderfyniadau ar sawl atgyfeiriad Cod Ymddygiad a gyhoeddwyd ers mis Ionawr. Siaradwn hefyd am ein canllawiau newydd ar gwynion am COVID-19 ‘nosocomiaidd’, lansiad ein Cynllun Strategol newydd, ac ein Seinfyrddau blynyddol gyda rhanddeiliaid allanol.
Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar ein Hadroddiad Blynyddol. Bydd yn cynnwys ein holl ddata perfformiad a gwaith achos diweddar, y byddwn yn siarad amdanynt yn fanwl yn y cylchlythyr nesaf. Fodd bynnag, gallaf ddweud eisoes fod ein gwaith achos wedi parhau i gynyddu. Un o’n prif heriau yn y flwyddyn i ddod yw sut i barhau i gyflawni cyfiawnder o dan bwysau cynyddol o ran ein llwyth gwaith.
Ein cwynion
Yn ystod chwarter olaf 2022/23, derbyniom 2354 o achosion newydd – a daeth 784 ohonynt yn gwynion priodol.
Gwnaethom hefyd gau 2381 o achosion – yr oedd 823 ohonynt yn gwynion. Yn ystod y chwarter diwethaf yn unig, gwnaethom gau 84 o ymchwiliadau.
Adroddiadau diddordeb cyhoeddus
Cyhoeddom 2 adroddiad diddordeb cyhoeddus ac 1 adroddiad arbennig.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Canfuom fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag asesu hanes clinigol y claf a’i symptomau newydd yn ddigonol ac na chafodd ei dderbyn i’r ITU ar ôl llawdriniaeth. Arweiniodd hyn yn y pendraw at ei ddirywiad a’i farwolaeth. Darllenwch ein hadroddiad yma.
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Canfuom fod urddas claf ag anghenion gofal y coluddyn wedi’u cyfaddawdu ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fethu â darparu gofal meddygol a nyrsio priodol. Darllenwch ein hadroddiad yma.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cyhoeddom Adroddiad Arbennig am Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar ôl i’r Awdurdod fethu â chydymffurfio â’r argymhellion a gyhoeddwyd, ac y cytunwyd arnynt, dros 3 blynedd yn ôl. Darllenwch ein hadroddiad yma.
Atgyfeiriadau cwynion y Cod Ymddygiad
Cawsom benderfyniadau ar 3 atgyfeiriad i Bwyllgorau Safonau.
Y Cynghorydd Louise Hughes o Gyngor Gwynedd
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi ymddwyn yn amhriodol pan ymatebodd yn Almaeneg i ohebiaeth a gafodd yn Gymraeg. Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd y dylid atal y Cynghorydd am 1 mis, y dylai fynychu hyfforddiant ac ymddiheuro yn ysgrifenedig i’r achwynydd o fewn 3 wythnos.
Y Cynghorydd Terry Davies o Gyngor Tref Llanelli
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chŵyn bod y Cynghorydd wedi ymddwyn yn amhriodol yn ystod rhyngweithiad ag aelodau eraill. Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Caerfyrddin y dylid atal y Cynghorydd am 1 mis a mynychu hyfforddiant y Cod Ymddygiad.
Y Cynghorydd Paul Rogers o Gyngor Cymuned Brymbo a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chŵyn bod y Cynghorydd wedi gwneud cwyn ffug honedig am yr achwynydd i’r Heddlu, yn ymwneud â digwyddiad a ddigwyddodd ar fws. Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y dylid gwahardd y Cynghorydd am 3 mis.
Cawsom hefyd benderfyniad ar 1 atgyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru.
Y Cyn Gynghorydd Sheila Jenkins o Gyngor Cymuned Llanarmon
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cyn Gynghorydd wedi methu â datgan buddiannau personol a rhagfarnus mewn dau o gyfarfodydd y Cyngor. Penderfynodd Panel Dyfarnu Cymru y dylid anghymhwyso’r Cynghorydd am 12 mis.
Canllawiau
Gwyddwn fod llawer o aelodau’r cyhoedd yn pryderu am sut y gwnaethant, neu eu hanwyliaid, ddal COVID-19 wrth dderbyn gofal mewn lleoliadau GIG fel ysbytai. Caiff haint COVID-19 a gafodd ei ddal mewn lleoliad GIG ei alw’n COVID-19 ‘nosocomiaidd’.
Ym mis Mawrth, cyhoeddom ganllawiau ar ein dull o ymdrin â chwynion am COVID-19 nosocomiaidd (gweler yma). Gwnaethom hefyd rannu’r canllawiau hyn â Phrif Weithredwyr a swyddogion cwynion ym Myrddau Iechyd Cymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut y byddwn yn delio â’r cwynion hyn.
Ein Cynllun Strategol newydd
Ar 4 Ebrill, lansiom ein Cynllun Strategol newydd: Pennod newydd, sy’n nodi ein pedwar Nod Strategol:
- Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus
- Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant
- Ehangu ein gwaith gwella rhagweithiol
- Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol.
Daeth lawer o bobl i’n lansiad ar-lein – diolch yn fawr i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod. Edrychwn ymlaen yn awr at roi’r Cynllun ar waith, er budd pobl Cymru.
Darllenwch ein Cynllun Strategol yma | Gwyliwch fideo byr am ein Cynllun Strategol yma.
Ein digwyddiad yn y Senedd
Ar 10 Mai cynhaliom ddigwyddiad i Aelodau Senedd a’u staff.
Gwahoddwyd pob un ohonynt i ddod i siarad â Michelle a’n staff am y Cynllun Strategol ar hyn y mae’n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn democratiaeth leol yng Nghymru.
Diolchwn i Luke Fletcher AS am noddi’r digwyddiad hwn.
Seinfyrddau
Cynhaliom dair sesiwn Seinfwrdd ym mis Ebrill 2023, gyda chynghorau lleol, Byrddau Iechyd a chymdeithasau tai. Cynrychiolwyd 44 o sefydliadau. Cawsom adborth ar rai meysydd y gallem eu gwella – er enghraifft, pa mor gyson ydym wrth osod terfynau amser i sefydliadau anfon tystiolaeth atom. Fodd bynnag, ar y cyfan roedd yr adborth yn gadarnhaol.
Cynullom hefyd ein Seinfwrdd blynyddol â chyrff cynghori ac eirioli. Roedd 14 o sefydliadau yn bresennol yn y sesiwn honno. Gwnaethant rannu rhywfaint o adborth â ni ar bethau y gallem eu gwneud yn well – er enghraifft, gwnaethant dynnu sylw at y ffaith y byddai rhywun ag anabledd dysgu yn cael trafferth defnyddio ein proses. Buom hefyd yn trafod cyfleoedd i gydweithio.
********
Hoffech dderbyn ein cylchlythyr? Rhowch wybod i ni yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru