Cwynodd Mrs G fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu darparu gofal a thriniaeth briodol ar gyfer canser ei mam.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod y dull clinigol o ddiagnosio’r canser a oedd yn effeithio ar fam Mrs G, Mrs O, o fewn yr ystod o ymarfer priodol, y bu oedi y gellid ei osgoi gan y Tîm Amlddisgyblaethol perthnasol (“y Tîm Amlddisgyblaethol”) wrth gynnal ymchwiliadau angenrheidiol. Roedd hyn yn gohirio’r adeg y rhoddwyd cynnig ar y llawdriniaeth, ac ar ôl hynny cafodd Mrs O wybod nad oedd modd gwella’r canser. Er na fyddai triniaeth gynharach, yn anffodus, wedi newid cyfeiriad canser Mrs O, roedd yr oedi wedi gwaethygu’r ansicrwydd iddi hi a’i theulu ar adeg pan oeddent, yn ddealladwy, yn awyddus i gael gwybodaeth glir. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod oedi o 4-6 wythnos cyn rhoi apwyntiad cemotherapi i Mrs O ar ôl y llawdriniaeth. Byddai’r oedi pellach hwn wedi achosi gofid a phryder ychwanegol i Mrs O a’i theulu. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro’n llwyr i Mrs G a’i theulu am yr oedi cyn rhoi diagnosis a thrin canser Mrs O. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd sicrhau bod canfyddiadau’r adroddiad yn cael eu hystyried gan fforwm llywodraethu clinigol perthnasol er mwyn cytuno ar gamau gweithredu penodol i sicrhau’r canlynol:
• bod y Tîm Amlddisgyblaethol yn trefnu ymchwiliadau a gweithdrefnau yn brydlon
• lle mae canfyddiadau clinigol yn awgrymu bod atgyfeiriad oncoleg lliniarol yn briodol, y gwneir atgyfeiriad ar unwaith heb aros am gymeradwyaeth y Tîm Amlddisgyblaethol.