Cwynodd Ms A am faint o amser yr oedd wedi’i gymryd i Gyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”) fynd i’r afael â chŵyn yr oedd wedi’i chyflwyno.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cymryd amser afresymol o hir i fynd i’r afael â chwyn Ms A. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi diangen a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms A, cynnig iawndal o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth a chychwyn Cam 1 y broses gwyno statudol o fewn 15 diwrnod gwaith.