Cwynodd Mrs B nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi uwchgyfeirio ei chŵyn i gam dau trefn gwyno’r gwasanaethau cymdeithasol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi oedi i fwrw ymlaen â chŵyn Mrs B gan ei fod wedi cynnig ei chyfarfod yn lle hynny. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mrs B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs B, talu iawndal o £50 iddi am yr oedi a phenodi ymchwilydd annibynnol o fewn mis.