Dyddiad yr Adroddiad

24/05/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202005522

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) wedi gwneud digon i sicrhau bod anghenion ei diweddar bartner, Mr B, yn cael eu cyflawni a’u monitro, yn benodol ar ôl iddi fynegi pryderon yn ddiweddarach ynglŷn â’i leoliad gofal cartref mewn gofal cartref yn Lloegr.

Er bod yr Ombwdsmon wedi canfod tystiolaeth o weithio da ar ran y Cyngor, daeth i’r casgliad y dylai’r Cyngor fod wedi cymryd camau i sicrhau bod trefniadau adolygu ar waith ar gyfer anghenion Mr B. Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod bod ffactorau i’w hystyried, gan gynnwys y pandemig COVID-19 a fyddai wedi effeithio ar symudiad Mr B i gartref gofal arall. Fodd bynnag, o ystyried pryderon cynyddol Mrs A ynglŷn â gallu’r Cartref Gofal i gyflawni anghenion Mr B, roedd yr Ombwdsmon yn glir y gallai penderfyniad y Cyngor yn y pen draw i gynnal adolygiad ffôn fod wedi’i wneud yn gynt nag a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Wedi dweud hynny, ni allai’r Ombwdsmon ddweud na fyddai’r oedi cyn symud Mr B o’r Cartref Gofal wedi digwydd, pe na fyddai’r diffygion gweinyddol (ynghylch yr adolygiad) wedi digwydd. Fodd bynnag, ni allai ddiystyru’r posibilrwydd y gallai penderfyniadau cynharach gan y Cyngor Cyntaf, yn arbennig mewn cysylltiad â’r trefniadau adolygu, fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol. Yr ansicrwydd hwn oedd yr anghyfiawnder i Mrs A a Mr B ac i’r graddau hynny cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs A.

Argymhellodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymddiheuro i Mrs A a newid ei brosesau ar gyfer lleoliadau cartref gofal y tu allan i’r sir, er mwyn sicrhau bod trefniadau adolygu a/neu fesurau wrth gefn priodol ar waith ar y cam cynharaf.