Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd gan y Practis. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A eu bod wedi methu, ar ôl iddo gofrestru gyda’r Practis, sicrhau ei gofnodion clinigol blaenorol mewn dull amserol i gael dealltwriaeth briodol o’i hanes clinigol.
Cwynodd Mr A na roddodd Meddygon Teulu’r Practis ystyriaeth briodol i’w ddiagnosis blaenorol (gorbryder ac anhwylder deubegynol) wrth ystyried ei ddiagnosis clinigol presennol, ni dderbyniodd ddiagnosis priodol ac ni chynigiwyd triniaeth briodol a/neu atgyfeiriadau i gael gofal eilaidd mewn dull amserol, ac roedd methiant i esbonio proses atgyfeirio’r GIG yn briodol i’w gynorthwyo i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn ag opsiynau triniaeth yn y dyfodol. Ni chadarnhawyd y cwynion hyn. Fodd bynnag, gwahoddodd yr Ombwdsmon y Practis i fyfyrio ar sut mae’n esbonio’r broses atgyfeirio ar gyfer gofal seiciatrig y GIG i gleifion sy’n aros am ddiagnosis ffurfiol.
Canfu’r Ombwdsmon, mewn cysylltiad â chais Mr Ac Ombwdsman i ddatgelu ei gofnodion clinigol, bod y Practis wedi methu darparu gwybodaeth gyson, glir a’u bod wedi methu cynnal cofnod cywir o’r ffordd yr oeddent wedi delio â’i gais am wybodaeth. Cadarnhawyd y gŵyn hon.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A ynglŷn â chofnod trydydd parti a gofnodwyd yn ei gofnodion clinigol i’r graddau nad oedd y cofnod wedi’i gofnodi yn unol â chanllawiau perthnasol y Practis.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A ynglŷn â’r penderfyniad i’w ddadgofrestru o’r Practis, i’r graddau nad oedd y broses i’w dynnu oddi ar y gofrestr wedi’i chyflawni yn unol ag arfer gorau cydnabyddedig.
Mewn perthynas â phryderon Mr A bod y Practis wedi methu ymdrin â’i gŵyn yn unol â’r Broses Gweithio i Wella (“PTR”) (proses gwyno’r GIG), cydnabu’r Ombwdsmon y rhwystredigaeth oherwydd yr oedi wrth ymdrin â’i gŵyn. Fodd bynnag, cydnabu’r Ombwdsmon fod y Broses PTR yn caniatáu ar gyfer amgylchiadau eithriadol a allai effeithio ar y gallu i gwblhau ymchwiliad i gŵyn o fewn yr amserlenni penodedig. Roedd y pandemig COVID-19 yn amlwg wedi effeithio ar yr achos hwn, ac roedd yn fodlon, o dan yr amgylchiadau bod hyn gyfystyr ag amgylchiad eithriadol na ellid ei ragweld. Ni chadarnhawyd y gŵyn ond gwahoddwyd y practis i fyfyrio ar sut yr oedd yn rheoli disgwyliadau cleifion yn ystod yr ymchwiliadau i gwynion.