Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol, cwynodd a gynhaliwyd adolygiad priodol gan yr Adran Gardioleg i gyflwr Mr A, gan gynnwys mewn cysylltiad â sicrhau nad oedd ei drefn meddyginiaeth frys yn cael effaith andwyol ar ei organau mewnol (yn benodol ei bancreas). Cwynodd Mrs A hefyd am y gofal a dderbyniodd Mr A yn yr Adran Achosion Brys a’r penderfyniad i beidio ei dderbyn yn yr Uned Gofal Dwys (“ICU”) cyn ei farwolaeth o bancreatitis necrotig acíwt.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod esgeulustod gweinyddol a olygodd na chynhaliwyd dau apwyntiad adolygiad Cardioleg, ni fyddai’r apwyntiadau hyn wedi nodi’r pancreatitis acíwt a arweiniodd at farwolaeth Mr A yn y pen draw. Hefyd, ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod trefn meddyginiaeth Mr A wedi arwain at ddatblygiad ei bancreatitis ac nad oedd angen monitro ei bancreas yn ychwanegol.
Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi cyn y cafodd Mr A ei asesu gan feddyg yn yr Adran Achosion Brys, ond nad oedd hyn yn arwyddocaol yn glinigol yn nhermau’r canlyniad yn y pen draw. Canfu’r ymchwiliad bod y gofal clinigol a dderbyniodd Mr A a’r penderfyniadau a wnaed i beidio ei uwchgyfeirio i’r Uned Gofal Dwys yn briodol.
Ni chadarnhawyd y cwynion.