Dyddiad yr Adroddiad

23/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202208573

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei thad yn yr Ysbyty yn union cyn ei farwolaeth, gan gynnwys diffyg cyfathrebu gyda’r teulu. Cwynodd hefyd fod cofnodion meddygol ei thad yn ymwneud â’r derbyniad ar goll.

Oherwydd bod y cofnodion meddygol ar goll, nid oedd yn bosibl i Mrs A a’i theulu gael atebion i bob un o’u cwestiynau. Hefyd, yn absenoldeb cofnodion meddygol perthnasol, ni allai’r Ombwdsmon ystyried digonolrwydd y gofal clinigol a ddarparwyd. Roedd hyn yn cynrychioli anghyfiawnder sylweddol i Mrs A a’i theulu.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac er mwyn datrys cwyn Mrs A, cytunwyd y byddai’n gwneud taliad gwneud iawn o £500 o fewn 20 diwrnod gwaith am y cyfle a gollwyd i roi ystyriaeth i’w chwyn ac i barhau i chwilio am y cofnodion.