Cwynodd Mrs D bod Cyngor Abertawe wedi methu cyflawni’r atgyweiriadau angenrheidiol yn dilyn difrod a achoswyd i gawod ei hystafell ymolchi.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod Mrs D wedi gwneud cwyn Cam 2, roedd y Cyngor wedi cau’r gŵyn yn gynnar heb gadarnhau bod Mrs D yn hapus yn dilyn y gwaith a gwblhawyd. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs D. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs D, darparu esboniad am gau ei chwyn yn gynnar, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 2 wythnos.