Cwynodd Mr A am y gofal a gafodd ei wraig, Mrs A, gan Bractis Meddyg Teulu (“y Feddygfa”) a’u dulliau rheoli yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar ôl iddi gysylltu’n gyntaf â’r Feddygfa ynghylch poen a chwydd yn rhan isaf ei choesau. Cwynodd hefyd am yr oedi cyn cael diagnosis o lid y tendonau a’r driniaeth ddilynol. Roedd Mr A yn bryderus bod y meddygon teulu wedi defnyddio ymgynghoriadau dros y ffôn, yn hytrach nag ymgynghoriad wyneb yn wyneb, i roi diagnosis am gyflwr coes ei wraig.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymgynghoriadau Meddygon Teulu dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn rhesymol. Roedd darlun clinigol Mrs A yn gymhleth, ac nid oedd ei symptomau, a ddatblygodd, yn nodweddiadol o lid y tendonau. Er bod yr oedi cyn cael diagnosis yn anffodus, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod dulliau rheoli a gofal y Feddygfa o gŵyn Mrs A yn ymwneud â’i choes yn briodol ar y pryd.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon ei bod yn rhesymol i ymgynghoriad cyntaf Mrs A fod wedi cael ei gynnal o bell ac na fyddai apwyntiad wyneb yn wyneb wedi arwain at ganlyniad gwahanol, a bod y digwyddiadau hyn wedi digwydd yn ystod pandemig COVID-19 pan oedd canllawiau cenedlaethol yn hyrwyddo ymgynghoriadau o bell ac eithrio yn yr achosion mwyaf brys. Roedd hi hefyd yn fodlon bod yr ymgynghoriadau wyneb yn wyneb dilynol wedi ceisio trin Mrs A yn briodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A.