Cwynodd Mr A, er gwaethaf setliad blaenorol gan yr Ombwdsmon, ei fod yn dal yn anfodlon ar ymateb Cyngor Caerdydd i’w gŵyn am ei gymydog. Dywedodd Mr A fod cyfnodau o ddiffyg gweithredu a diweddariadau ers adrodd ar y mater dros 13 mis yn ôl.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu cyfnodau parhaus o oedi a diffyg gweithredu diangen, a bod y Cyngor wedi methu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf lawn i Mr A. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A, i gynnig taliad iawndal o £100 ac i ddarparu esboniad ysgrifenedig o’r pwerau/proses y gall y Cyngor weithredu oddi tanynt o fewn 10 diwrnod gwaith.