Dyddiad yr Adroddiad

13/06/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202301197

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu darparu ymateb i’w chŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar dad.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn, ei fod wedi’i anfon i’r cyfeiriad ebost anghywir. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ac esboniad am y methiant, i godi’r mater gyda’r aelod staff perthnasol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu, ac i gynnal y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau nad oes achos o dor diogelwch data. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnig iawndal o £50 i Miss B ac i ailanfon yr ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.