Pan edrychwn ar gwynion, mae’n rhaid i ni fod yn annibynnol ac ni allwn weithredu fel eiriolwr drosoch chi.

Ond, efallai bod arnoch chi angen help i wneud eich cwyn. Felly, rydym wedi casglu ynghyd manylion rhai sefydliadau sy’n gallu cynnig cyngor ac eiriolaeth.

Mae’r rhestr  isod yn fyw – byddwn yn ei diweddaru’n rheolaidd ac ychwanegu rhagor o sefydliadau dros amser.

Hoffech i ni newid yr wybodaeth isod neu ychwanegu manylion newydd? Cysylltwch â ni – cyfathrebu@ombwdsmon.cymru.

Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant i gyrff am ein rôl a phroses. Os oes gennych diddordeb, cysylltwch â ni ar yr ebost uchod.

Lawrlwythwch y rhestr yma