Cwynodd Ms A am fewnbwn niwrolegol i’w thriniaeth a’i gofal yn ogystal â chynnwys rhai o’r llythyrau clinigol a anfonwyd gan y Niwrolegydd.
Cytunodd yr Ombwdsmon ar setliad mewn perthynas â rhan o gŵyn Ms A. Roedd yr Ombwdsmon yn credu bod lle i’r llythyr yr oedd y Niwrolegydd wedi’i anfon ym mis Ionawr 2020 at y clinigydd sy’n atgyfeirio fod yn fwy pwyllog. Daeth i’r casgliad nad oedd yn fuddiol iddo grybwyll penderfyniadau clinigol a oedd y tu allan i arbenigedd y Niwrolegydd drwy awgrymu bod y clinigydd sy’n atgyfeirio yn canslo’r atgyfeiriad at faes arbenigol arall. Roedd hefyd yn cynnwys gwallau gan ei fod yn nodi y byddai Ms A yn cael ei thynnu oddi ar restr aros yr adran Niwroleg er nad oedd hynny’n amlwg wedi digwydd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A eto am y diffygion yn llythyr clinigol y Niwrolegydd. Cytunodd hefyd i atgoffa clinigwyr o’r angen am sensitifrwydd wrth gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol.