Dyddiad yr Adroddiad

21/08/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

COVID

Cyfeirnod Achos

202104936

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A wrth yr Ombwdsmon pan gafodd ei mam, Mrs B ei derbyn i’r Adran Achosion Brys (“yr ED”) yn Ysbyty Tywysoges Cymru (“yr Ysbyty”), eu bod wedi methu ag asesu ac ymchwilio i’w symptomau a oedd yn arwydd o strôc yn ddigon cyflym. Roedd o’r farn bod y methiant hwn wedi effeithio ar y dewisiadau o ran triniaeth a fyddai wedi bod ar gael fel arall, gan gynnwys llawdriniaeth, i ddelio â’r gwaedlif ar ei hymennydd a gafodd ei nodi wedyn. Cwynodd Mrs A hefyd fod ei mam wedi cael Covid-19 yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty ar ôl hynny.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi amhriodol rhwng brysbennu Mrs B a’r adeg y cafodd ei hasesu gan feddyg yn yr Adran Achosion Brys hyd yn oed wrth ystyried yr effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar ddarparu gwasanaethau’r GIG. Dylai Mrs B fod wedi’i hasesu’n gyflym gan ddefnyddio sgôr Rosier, ond ni chafodd hyn ei wneud yn brydlon. Roedd hyn gyfystyr â methiant yn y gwasanaeth gan y Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol y byddai’r oedi wedi newid y canlyniad trist i Mrs B. Serch hynny, gwnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn i’r graddau cyfyngedig y byddai’r methiant hwn wedi arwain at ansicrwydd i Mrs A y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol. Ni chafodd y gŵyn fod Mrs B wedi cael COVID-19 ar ôl iddi gael ei derbyn i’r Ysbyty ei chadarnhau oherwydd daethpwyd i’r casgliad, rhwng popeth, ei bod yn fwy tebygol bod Mrs B wedi dal y feirws cyn iddi fynd i’r Ysbyty.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs A am y diffygion a nodwyd yn yr adroddiad. Argymhellodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn sicrhau bod y diffygion a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu defnyddio gyda’r staff clinigol a fu’n ymwneud â gofal Mrs B at ddibenion dysgu drwy bwyso a mesur. Yn olaf, argymhellodd yr Ombwdsmon fod y

Bwrdd Iechyd yn atgoffa meddygon locwm a meddygon dan hyfforddiant adeg ddechrau eu gwasanaeth yn y Bwrdd Iechyd ynghylch y llwybr strôc.