Cwynodd Miss A am oedi cyn atgyfeirio ei mab, B, i gael ei ystyried ar gyfer asesiad ffurfiol o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth. Cwynodd Miss A fod atgyfeiriad B wedi’i ohirio o fis Chwefror 2021 tan fis Ebrill 2022 oherwydd camgymeriadau ar ran y Bwrdd Iechyd, ac ni chafodd ei le ar y rhestr aros ei gadarnhau tan 7 Chwefror 2023. Dywedodd Miss A mai dim ond i 21 Mehefin 2022 y byddai’r Bwrdd Iechyd yn ôl-ddyddio dyddiad cadarnhau B oherwydd na fyddai’r system gyfrifiadurol yn caniatáu ôl-ddyddio’n gynharach na hynny.
Canfu’r Ombwdsmon nifer o gamgymeriadau ar ran y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys methiant i wneud atgyfeiriad yn brydlon/o gwbl, cyfathrebu gwael a methiant i gwblhau gwaith papur yn briodol. Pe bai’r atgyfeiriad wedi’i wneud yn briodol, byddai lle B ar y rhestr aros wedi’i gadarnhau ar 15 Awst 2021. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod system y Bwrdd Iechyd ar gyfer ôl-ddyddio cofnodion ar y rhestr aros yn wyneb gwallau ar ei ran, yn annheg.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss A, i ôl-ddyddio lle B i 15 Awst 2021, ac i gymryd camau i ddawygio ei systemau fel bod modd ôl-ddyddio yn yr un modd yn y dyfodol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ateb priodol ac felly ni ymchwiliodd.