Dyddiad yr Adroddiad

20/09/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Budd-daliadau Eraill

Cyfeirnod Achos

202300604

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod yn anfodlon ynghylch penderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i beidio ag ôl-ddyddio cyllid roedd hi’n credu roedd ganddi hawl iddo fel Gwarcheidwad. Dywedodd Ms A nad oedd y Cyngor, dros gyfnod o 7 mlynedd, wedi cadw mewn cysylltiad â hi/y plentyn oedd yn ei gofal, o safbwynt llesiant.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi hysbysu Ms A yn gywir am ei chyfrifoldeb fel Gwarcheidwad i roi gwybod am unrhyw newidiadau yn ei hamgylchiadau ariannol/ gofyn am asesiad ariannol. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi cael cyfle i ymateb i gŵyn Ms A am y diffyg cysylltiad. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gydnabod cwyn Ms A cyn pen 5 diwrnod gwaith ac i gytuno i roi ymateb.