Cwynodd Mr A am leithder yn yr eiddo a’i bryderon ynghylch mynediad i ran uchaf yr ardd. Roedd Mr A wedi cwyno i Gymdeithas Tai Hafod, ond dywedodd fod y gymdeithas wedi methu â chwblhau gwaith y cytunwyd arno o’r blaen.
Er bod yr Ombwdsmon yn nodi bod Mr A wedi gofyn i Gymdeithas Tai Hafod osod stepiau i ran uchaf yr ardd a ffens rhyngddo a’r eiddo cyfagos, roedd o’r farn bod Cymdeithas Tai Hafod wedi darparu eglurhad rhesymol ynghylch pam nad oedd modd gwneud hyn. Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu’n benodol ynghylch y ffaith bod Cymdeithas Tai Hafod, er gwaethaf ei haddewid blaenorol, wedi methu gosod rheiddiadur newydd yn yr ystafell ymolchi i lawr y grisiau i leihau’r lleithder. Fel dewis arall yn lle ymchwilio i’r gŵyn, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhellion ac roedd Cymdeithas Tai Hafod wedi cytuno i’w rhoi ar waith.
Cytunodd Cymdeithas Tai Hafod i osod rheiddiadur yng nghegin yr eiddo, i anfon llythyr o ymddiheuriad ac i gynnig iawndal o £100 i Mr A oherwydd yr oedi a’r rhwystredigaeth yr oedd hyn wedi’i achosi. Byddai’r holl gamau hyn yn cael eu cymryd o fewn 30 diwrnod gwaith.