Dyddiad yr Adroddiad

21/09/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202304104

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs E bod lloriau ei chartref wedi dechrau afliwio oherwydd presenoldeb asbestos. Dywedodd fod Cyngor Caerdydd wedi methu monitro’r asbestos yn ei heiddo yn rheolaidd.

Canfu’r Ombwdsmon bod yr eiddo wedi cael ei archwilio yn 2019 ond nad oedd dim monitro pellach wedi bod ers i Mrs E wneud ei chwyn. Dywedodd fod hyn wedi ychwanegu at bryderon Mrs E. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael cytundeb y Cyngor i ddod i weld yr eiddo cyn pen 4 wythnos, er mwyn adolygu cyflwr yr asbestos lle’r oedd modd cael mynediad ato’n rhwydd.