Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) wedi gwneud sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol a oedd yn dwyn anfri ar y Cyngor, gan iddo honni bod aelod arall o’r Cyngor wedi’i “brynu”.
Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri paragraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor Cafwyd copïau o’r sylwadau a wnaed ar gyfryngau cymdeithasol a thystiolaeth o Facebook. Cafwyd gwybodaeth gan dystion. Cyfwelwyd â’r Aelod.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon bod sylwadau’r Aelod ar gyfryngau cymdeithasol wedi’u gwneud yn gyhoeddus ac yn awgrymu amhriodoldeb a llygredd ar ran aelod arall o’r Cyngor. Canfu’r Ombwdsmon fod gan sylwadau’r Aelod y potensial i niweidio ei enw da ac enw da’r Cyngor yn ddifrifol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai aelod o’r cyhoedd wedi ystyried yn rhesymol sylw’r Aelod fel honiad o lwgrwobrwyo neu lygredd ar ran aelod o’r Cyngor. Canfu felly bod gan sylwadau’r Aelod y potensial i effeithio ar enw da’r Cyngor a hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol. Daeth i’r casgliad felly y gellid ystyried ymddygiad yr Aelod yn rhesymol fel un a oedd yn dwyn anfri ar y Cyngor a’i swydd fel cynghorydd, gan dorri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.
Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod sylwadau’r Aelod a’r cyfeiriad penodol at aelod o’r Cyngor yn cael ei ‘brynu’ yn mynd tu hwnt i’r hyn a oedd yn rhesymol a’i fod yn honiad difrifol i’w wneud. Canfu fod yr Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth i’r achwynydd drwy wneud honiad mor ddifrifol, yn gyhoeddus ar Facebook. Canfu’r Ombwdsmon fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 4(b) o’r Cod.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr aelod o’r Cyngor, yr oedd y sylwad wedi’i anelu tuag ato, yn glir nad oedd wedi dioddef unrhyw bryder parhaol na cholli enw da o ganlyniad i sylwadau’r Aelod. Ymddiheurodd yr Aelod hefyd yn gyhoeddus ac yn breifat i’r aelod o’r Cyngor y gwnaeth y sylwadau yn ei gylch. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y dystiolaeth yn awgrymu bwlio ac aflonyddu o fewn ystyr y Cod ac felly nid oedd yn ystyried bod tystiolaeth o dorri paragraff 4(c) o’r Cod.
Wrth ystyried a oedd angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, ystyriodd yr Ombwdsmon y digwyddiadau a fu ers i’r sylwadau cael eu gwneud ar gyfryngau cymdeithasol. Ymddiheurodd yr Aelod yn gyhoeddus am y sylwad a derbyniwyd yr ymddiheuriad. Dywedodd yr aelod a oedd yn destun y sylwadau nad oedd wedi dioddef unrhyw bryder parhaol na cholli enw da o ganlyniad i sylwadau’r Aelod a’i fod yn dymuno tynnu ei gŵyn yn ôl. O ystyried hyn, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cymryd camau ymchwiliol pellach er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon, pe na bai’r Aelod wedi ymddiheuro yn gyhoeddus a phe bai’r aelod a oedd yn destun i’r sylwadau wedi cymryd ystyriaeth wahanol ar y mater, y byddai camau pellach wedi’u cymryd. Atgoffwyd yr aelod o’i angen i fod yn ofalus wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol. Nododd yr Ombwdsmon hefyd, pe bai unrhyw gwynion o natur debyg yn cael eu gwneud yn y dyfodol, y byddai’r penderfyniad hwn yn cael ei gadw ar gofnod a’i gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw achosion yn y dyfodol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.