Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn gan Mrs A am y gofal llygaid a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd i’w mab B, rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2021. Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio’n benodol ar a oedd y penderfyniad i ryddhau B (o’r clinig llygaid) ym mis Mai 2020 yn briodol, ac a oedd methiant i ganfod bod B yn datblygu Clefyd Coates (mae hyn yn bennaf yn cynnwys pibellau gwaed annormal a chroniadau hylif yn y retina a all arwain at broblemau golwg) cyn mis Mehefin 2021.
Canfu’r Ombwdsmon fod y penderfyniad i ryddhau B ym mis Mai 2020 yn briodol o ystyried nad oedd symptomau neu bryderon newydd. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Fodd bynnag, gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i adolygu ei benderfyniad i beidio ag anfon llythyr rhyddhau, ac i adolygu ei esboniad ynghylch y rheswm dros yr oedi cyn yr apwyntiad dilynol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd methiant i ganfod bod B yn datblygu Clefyd Coates. Yn ystod apwyntiad ym mis Gorffennaf 2019, ni ddangosodd B symptomau oedd yn awgrymu Clefyd Coates. Roedd ganddo anghymesuredd yng nghannwyll y llygad nad yw fel arfer yn brif arwydd o Glefyd Coates. Pan gafodd B ei apwyntiad dilynol, ni roddwyd gwybod am unrhyw symptomau na phryderon newydd. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon.