Cwynodd Ms X nad oedd y wybodaeth ar sgan CT a gynhaliwyd yn 2017 (“sgan CT 2017”) wedi’i hadrodd a’i phwysleisio’n llawn iddi hi neu ei meddyg teulu. Cwynodd Ms X hefyd ynglŷn â digonolrwydd a chadernid ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chwyn.
Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad yr adroddwyd yn briodol ar sgan CT 2017 ac nad oedd unrhyw friwiau wedi’u methu. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn fodlon bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn ddigonol a chadarn. Nododd yr Ombwdsmon bod awgrym y Bwrdd Iechyd o drafodaeth fewnol yn ymwneud â’r defnydd gofalus o iaith wrth gyfeirio at archwiliad blaenorol er mwyn osgoi cyfleu’r argraff anghywir bod gwall radiolegol wedi digwydd, yn ddefnyddiol.