Crynodeb

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr, Mr B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Aeth Mr B i’r Adran Frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Ebrill 2022 am na allai basio wrin. Bu fy ymchwiliad yn ystyried a ddylai ei symptomau fod wedi arwain at atgyfeiriad brys oherwydd amheuaeth o ganser. Roedd fy ymchwiliad hefyd yn ystyried a oedd y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli gofal Mr B, rhwng Ebrill 2022 a Chwefror 2023, yn briodol yn glinigol ac yn unol â’r llwybr ar gyfer amheuaeth o ganser. Bûm yn ystyried a oedd cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd â Mr a Mrs B, gan gynnwys rhannu gwybodaeth am ymchwiliadau a chynlluniau triniaeth, yn ystod y cyfnod hwn yn briodol. Rwyf hefyd wedi ystyried a oedd yr amser aros tebygol am fiopsi ym mis Awst 2022 yn rhesymol. Yn olaf, bu fy ymchwiliad wedi ystyried sut yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’r gŵyn yn yr achos hwn.

Canfu fy ymchwiliad fod Mr B wedi cael ei drin yn briodol pan aeth i’r Adran Frys ym mis Ebrill 2022 ac ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Canfuwyd hefyd, er bod elfennau o ofal Mr B a oedd yn briodol yn glinigol, ni chafodd Mr B lawdriniaeth wellhaol bosibl. Roedd y penderfyniad i beidio â chynnig llawdriniaeth wedi’i seilio ar y farn fod ei ganser wedi ymledu. Fodd bynnag, roedd ansicrwydd ynglŷn â hynny a deuthum i’r casgliad y dylai fod wedi cael cynnig llawdriniaeth.

Nid oedd triniaeth Mr B yn agos at gyrraedd amser targed y llwybr canser o 62 diwrnod rhwng amheuaeth o ganser a thriniaeth. Cafodd Mr B fiopsi yn breifat oherwydd oedi annerbyniol cyn y gallai’r Bwrdd Iechyd ymgymryd â’r driniaeth hon. Dylai Mr B fod wedi cael y cyfle i drafod canlyniadau ei ymchwiliad cymhleth a’i gynllun triniaeth ag uwch glinigydd. Cadarnhawyd y cwynion hyn. Yn olaf, nodwyd methiannau yn y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn ar y dechrau yn yr achos hwn.

Argymhellais y dylai’r Bwrdd Iechyd:

  1. Ymddiheuro i Mr and Mrs B am y methiannau a nodwyd.
  2. Talu iawndal ariannol o £6,850 i Mr a Mrs B, sy’n cynnwys ad-dalu costau prawf ac ymgynghoriad preifat, £1,000 am yr anghyfiawnder a achoswyd drwy wrthod llawdriniaeth wellhaol bosibl i Mr B, a £250 am amser Mrs B a’r drafferth yr aeth iddo yn sgil y methiannau a nodwyd yn y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn.
  3. Rhannu fy adroddiad â chlinigwyr perthnasol i fyfyrio ar fy nghanfyddiadau.
  4. Adolygu sut yr oedd wedi delio â’r gŵyn yn yr achos hwn i ganfod unrhyw wersi sydd i’w dysgu.
  5. Crynhoi’r camau a gymerwyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau unioni a’r argymhellion, yn dilyn adolygiadau mewnol ac allanol, gan gynnwys rhai gan:
  • Grŵp Llywio Wroleg y Bwrdd Iechyd
  • y Tîm Getting it Right First Time (GIRFT)
  • Coleg Brenhinol y Llawfeddygon
  • grwpiau gorchwyl a gorffen a sefydlwyd yn dilyn adolygu’r llwybr canser y prostad

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd ganfyddiadau fy ymchwiliad a fy argymhellion.