Cwynodd Mrs A bod y Bwrdd Iechyd wedi oedi wrth ddarparu ei mab, Mr B, ag asesiadau iechyd meddwl ac anhwylder sbectrwm awtistaidd (“ASA”) priodol ac amserol. Cwynodd hefyd am fethiant y Bwrdd Iechyd i’w darparu ag ymateb cadarn i’w chwyn.
Yn 2015, asesodd Tîm Argyfwng anghenion seiciatrig a seicolegol Mr B, a chyfeirio ef am asesiadau ASA ag iechyd meddwl. Canfu fy ymchwiliad bod arfer y Bwrdd Iechyd o gyfeirio cleifion am asesiad ASA cyn eu cyfeirio am asesiad iechyd meddwl yn groes i ganllaw ac arfer clinigol da. Yn achos Mr B, ni chwblhawyd ei asesiad ASA nes Mai 2017. Yn ystod yr amser hwn, methodd y Bwrdd Iechyd i weithredu i naill ai ystyried, neu ddarparu ar gyfer, iechyd meddwl Mr B. Felly, roedd hi’n ddwy flynedd cyn aseswyd ei anghenion iechyd meddwl.
Disgynnodd gofal y Bwrdd Iechyd o dan safonau disgwyliedig, arfer clinigol da a chanllawiau yn nhermau’r oedi hir wrth gwblhau asesiad ASA Mr B, ei fethiant i ystyried anghenion iechyd meddwl cydfodol Mr B, a’i fethiant i gyfeirio Mr B am asesiad iechyd meddwl yr un pryd a’i atgyfeiriad ASA. Nid oedd yn bosibl penderfynu a fyddai sefyllfa Mr B wedi bod yn wahanol pe na bai methiannau’r Bwrdd Iechyd heb ddigwydd, ond fe achosodd ansicrwydd a thrallod iddo. Cafodd ei hawliau dynol o dan Erthygl 8 (Mae Erthygl 8 o’r Ddeddf Hawliau Dynol 2018 yn rhoi’r hawl i barch at fywyd preifat, teuluol, cartref a chyfatebiaeth unigolyn) ei gyfaddawdu o ganlyniad i fethiannau canfyddadwy’r Bwrdd Iechyd.
Methodd ymateb cwynion y Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael â rhai o bryderon penodol Mrs A.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Mrs A a gwnaeth argymhellion a gafodd eu derbyn gan y Bwrdd Iechyd. Roedd y rhain yn cynnwys:
a) Taliadau iawndal ac ymddiheuriadau addas i Mrs A a Mr B ill dau am y methiannau canfyddadwy.
b) Adolygiad o arfer cyfredol i sicrhau ei fod yn dilyn canllawiau i ganiatâu cleifion gyda ASA ac anghenion iechyd meddwl deuol gael eu hasesu ar yr un pryd.
c) Archwiliad o sampl o gleifion a oedd wedi eu cyfeirio am asesiadau ASA ac iechyd meddwl i sicrhau nad oedd eraill o dan anfantais debyg.
ch) Archwiliad o sampl o asesiadau iechyd meddwl gan y TIMC cyntaf a’r ail TIMC am gymhwysiad cyson o’r meini prawf ar gyfer mynediad at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
d) Ail-asesiad o anghenion iechyd meddwl Mr B a’i gymhwystra ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.